Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, iw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan or Rheoliadau)

Maer Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel Byrddau Diogelu), a sefydlir o dan adran 134 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Byrddau Diogelu ac mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynglŷn âu gweithdrefnau. 

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Diogelu roi i blant neu oedolion y mae arfer swyddogaethaur Bwrdd yn effeithio arnynt, neu y gall effeithio arnynt, gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol or costau ar manteision syn debygol o ddeillio o gydymffurfio âr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, iw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

Gwnaed                                                2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 135(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]).

Yn unol ag adran 196(6) or Ddeddf honno, gosodwyd drafft or offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enwr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.

(2) Dawr Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3) Maer Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn

ystyr adolygiad ymarfer” ac “adolygu ymarfer” (practice review) yw naill ai adolygiad ymarfer cryno neu adolygiad ymarfer estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4;

ystyr Bwrdd (Board) yw Bwrdd Diogelu;

ystyr Bwrdd Cenedlaethol (National Board) ywr Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlwyd gan adran 132(1) or Ddeddf;

ystyr Bwrdd Diogelu (Safeguarding Board) yw Bwrdd Diogelu Plant([2]) neu Fwrdd Diogelu Oedolion([3]);

 ystyr cofrestr amddiffyn plant (child protection register) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac syn cynnwys enwau plant syn destun cynllun amddiffyn plant([4]) o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed o bwys ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;

ystyr cynllun gweithredu (action plan) yw adroddiad ysgrifenedig syn cael ei lunio gan Fwrdd yr un pryd ag adroddiad ar yr adolygiad ymarfer, gan fanylu ar y camau sydd iw cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr adolygiad ymarfer;

 ystyr digwyddiad dysgu amlasiantaethol (multi-agency learning event) yw digwyddiad syn ffurfio rhan o’r broses adolygu ymarfer ac y mae Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd ac sy’n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, âr person syn destun yr adolygiad, at y diben o wella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr y Ddeddf (the Act) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

 ystyr fforymau proffesiynol amlasiantaethol (multi-agency professional forums) ywr fforymau, a drefnir ac a hwylusir gan Fwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd, at y diben o ddysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;

ystyr oedolion (adults) yw oedolion y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr plant (children) yw plant y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;

ystyr plentyn syn derbyn gofal (looked after child) yw plentyn syn derbyn gofal gan:

(a)      awdurdod lleol o dan adran 74(1) or Ddeddf,

(b)      awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989([5]),

(c)      awdurdod lleol yn yr Alban yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995([6]),

(d)      Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unol ag erthygl 25 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995([7]).

Swyddogaethau Byrddau Diogelu

3.(1)(1) Mae paragraff (2) yn pennu swyddogaethau

(a)      Bwrdd Diogelu Plant mewn perthynas âi amcanion o dan adran 135(1)([8]) or Ddeddf, a

(b)      Bwrdd Diogelu Oedolion mewn perthynas âi amcanion o dan adran 135(2)([9]) or Ddeddf.

(2) Y swyddogaethau yw

(a)      cydweithredu â Byrddau Diogelu eraill ar Bwrdd Cenedlaethol gyda golwg ar

                            (i)    cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol ar gyfer Byrddau Diogelu,

                          (ii)    gweithredu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a argymhellir gan, a chanllawiau a chyngor a roddir gan, y Bwrdd Cenedlaethol;

(b)      codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd Diogelu o amcanion y Bwrdd a sut y gallair rheini gael eu cyflawni;

(c)      ymgymryd ag adolygiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau perthnasol;

(d)      adolygu effeithiolrwydd mesurau a gymerir gan y Bwrdd i gyflawni amcanion y Bwrdd;

(e)      gwneud argymhellion yng ngoleunir adolygiadau hynny, monitro i ba raddau y maer argymhellion hynny wedi eu rhoi ar waith a chymryd camau priodol pan fon cael ei ddangos nad yw amcanion y Bwrdd yn cael eu cyflawni;

(f)       lledaenu gwybodaeth am yr argymhellion hynny i Fyrddau Diogelu priodol eraill ar Bwrdd Cenedlaethol;

(g)      hwyluso ymchwil i faterion amddiffyn, ac atal cam-drin ac esgeuluso, plant neu oedolion syn wynebu risg o ddioddef niwed;

(h)       adolygu anghenion hyfforddi personau syn gweithio i gyflawni amcanion y Bwrdd a hyrwyddo’r broses o ddarparu hyfforddiant addas ar eu cyfer;

(i)       trefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol;

(j)       cydweithredu neu weithredu ar y cyd ag unrhyw gorff tebyg sydd wedi ei leoli mewn unrhyw awdurdodaeth pan for Bwrdd or farn y byddai hynnyn ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion;

(k)      sicrhau cyngor neu wybodaeth arbenigol syn berthnasol i gyrraedd amcanion y Bwrdd; 

(l)       ymgymryd ag adolygiadau ymarfer yn unol â rheoliad 4.

Adolygiadau ymarfer

4.(1)(1) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer yn unol âr rheoliad hwn.

(2)  Diben adolygiad ymarfer yw canfod unrhyw gamau y gall partneriaid y Bwrdd Diogelu neu gyrff eraill eu cymryd i wella ymarfer amddiffyn plant ac oedolion amlasiantaethol.

(3) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer cryno yn unrhyw un neu rai or achosion canlynol, pan fon hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a

(a)      bod y plentyn neur oedolyn

                            (i)    wedi marw, neu

                          (ii)    wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu

                        (iii)    wedi dioddef nam difrifol a pharhaol iw iechyd neu iw ddatblygiad; a

(b)      o ran plentyn, nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn

                            (i)    dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu

                          (ii)    pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004([10])neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002([11])yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol iw iechyd ac iw ddatblygiad; ac

(c)      o ran oedolyn, nad ywr oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef iw amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) or Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) or Ddeddf.

(4) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer estynedig yn unrhyw un neu rai or achosion canlynol, pan fon hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a

(a)      bod y plentyn neur oedolyn

                            (i)    wedi marw, neu

                          (ii)    wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu

                        (iii)    wedi dioddef nam difrifol a pharhaol iw iechyd neu iw ddatblygiad; a

(b)      o ran plentyn, bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu ei fod yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn

                            (i)    dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu

                          (ii)    pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol iw iechyd ai ddatblygiad; ac

(c)      o ran oedolyn, bod yr oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef iw amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) or Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) or Ddeddf.

(5) Wrth gynnal adolygiad ymarfer, rhaid i Fwrdd

(a)      gofyn i bob corff cynrychioliadol roi gwybodaeth yn ysgrifenedig ir Bwrdd am ei ymwneud âr plentyn neur oedolyn syn destun yr adolygiad;

(b)      sicrhau y ceir persbectif y plentyn neur oedolyn syn destun yr adolygiad a bod persbectif y plentyn neur oedolyn hwnnw yn cyfrannu at y broses adolygu, ir graddau y bon ymarferol a phriodol i amgylchiadaur achos;

(c)      sicrhau y ceir persbectifau aelodau or teulu neu gynrychiolydd penodedig y plentyn neur oedolyn syn destun yr adolygiad a bod y persbectifau hyn yn cyfrannu at y broses adolygu, ir graddau y bon ymarferol a phriodol i amgylchiadaur achos;

(d)      cynnal digwyddiad dysgu amlasiantaethol ar ôl cael yr wybodaeth ysgrifenedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a);

(e)      yn achos adolygiad ymarfer cryno, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu ai hwyluso gan un adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(f)       yn achos adolygiad ymarfer estynedig, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu ai hwyluso gan ddau adolygydd a benodir gan y Bwrdd;

(g)      sicrhau bod unrhyw adolygydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) neu (f) yn annibynnol ar unrhyw ymwneud uniongyrchol â gwaith achos neu reoli achosion mewn cysylltiad âr plentyn neur oedolyn syn destun yr adolygiad;

(h)      llunio adroddiad ar yr adolygiad ymarfer syn argymell pa gamau (os o gwbl) y maen ofynnol eu cymryd ar ôl y digwyddiad dysgu amlasiantaethol;

(i)       sicrhau nad ywr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer yn datgelu pwy ywr plentyn neur oedolyn syn destun yr adolygiad na theulur plentyn neu’r oedolyn na lle y maent;

(j)       llunio cynllun gweithredu gan fanylu ar y camau sydd iw cymryd gan y cyrff cynrychioliadol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer;

(k)      rhoi copi or adroddiad ar yr adolygiad ymarfer ar cynllun gweithredu i Weinidogion Cymru ac ir Bwrdd Cenedlaethol;

(l)       trefnu bod yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer ar gael ir cyhoedd;

(m)    cynnal adolygiadau cynnydd cyfnodol ar roir cynllun gweithredu ar waith;

(n)      rhoi i Weinidogion Cymru ar Bwrdd Cenedlaethol adroddiad ysgrifenedig ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (m), gan adrodd ar y cynnydd o ran rhoir cynllun gweithredu ar waith ar effaith ar bolisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yng Nghymru;

(o)      rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru, drwy arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn.

(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person sydd â’r awdurdod i siarad neu weithredu ar ran plentyn neu oedolyn.

Gweithdrefnau Byrddau Diogelu

5.(1)(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethaur rheoliad hwn, mae Bwrdd Diogelu i benderfynu ei weithdrefnau ei hun a threfnu bod copi or gweithdrefnau hynny ar gael ir cyhoedd.

(2) Yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd, rhaid ir aelodau syn bresennol benodi un o’r aelodau i fod yn Gadeirydd ac un i fod yn Is-gadeirydd.

(3) Rhaid ir Bwrdd gytuno ar reolau gweithredu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd, gan gynnwys person i lywyddu mewn cyfarfodydd.

(4) Oni fydd rheolau gweithredur Bwrdd yn darparu fel arall, rhaid ir Bwrdd weithredun unol â phleidlais mwyafrif syml or aelodau syn bresennol, ar person syn llywyddu yn y cyfarfod yn cael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.

(5) Ym mhob cyfarfod or Bwrdd rhaid ir Bwrdd ystyried sut y bydd yn rhoi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(6) Yn ei gyfarfod nesaf ar ôl i blentyn neu oedolyn gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd, rhaid ir Bwrdd werthuso effeithiolrwydd y cymryd rhan hwnnw.

(7) Rhaid ir Bwrdd gadw cofnodion oi gyfarfodydd; maer cofnodion i gofnodir penderfyniadau a wnaed, y dystiolaeth y gwnaed penderfyniadau arni, unrhyw farn ac unrhyw farn anghydsyniol a fynegwyd ac unrhyw drafodaeth am blentyn neu oedolyn yn cymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(8) Daw penodiad Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ben:

(a)      os oedd y penodiad am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dirwyn i ben;

(b)      os ywr person a benodwyd yn ymddiswyddo;

(c)      os nad ywr person a benodwyd bellach yn aelod or Bwrdd;

(d)      os ywr aelodau, drwy benderfyniad y mwyafrif, yn penderfynu hynny.

Cyfle i gymryd rhan yng ngwaith Byrddau Diogelu

6. O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i Fwrdd Diogelu, fel y bon berthnasol, roi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan mewn digwyddiad lle y bydd ganddynt gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2014 dccc 4.

([2])           Sefydlir Byrddau Diogelu Plant gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas â phlant ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf). Pennir partneriaid arweiniol Byrddau Diogelu gan Weinidogion Cymru yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 (O.S.   ) o blith rhestr o bartneriaid Byrddau Diogelu a nodir yn adran 134(2) or Ddeddf.

([3])           Sefydlir Byrddau Diogelu Oedolion gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag oedolion ar gyfer yr ardal yn unol ag adran 134(5) or Ddeddf. 

([4])           Mae “cynhadledd amddiffyn plant” yn gyfarfod amlddisgyblaethol a drefnir gan awdurdod lleol yn dilyn ymholiadau o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (dyletswydd awdurdod lleol  i  ymchwilio) er mwyn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ynghylch amgylchiadau’r plentyn. Os ystyrir bod y plentyn mewn risg parhaus o niwed o bwys bydd “cynllun amddiffyn plant” yn cael ei wneud sy’n nodi manylion y risgiau penodol i’r plentyn a’r camau y bydd angen eu cymryd i gadw’r plentyn yn ddiogel.

([5])           1989 p. 41.

([6])           1995 p. 36, gweler adran 17(6) or Ddeddf honno.       

([7])           O.S. 1995 / 755 (N.I. 2).

([8])           Amcanion Bwrdd Diogelu Plant o dan adran 135(1) yw:

(a) amddiffyn plant o fewn ei ardal syn cael, neu syn wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu ddioddef mathau eraill o niwed, a (b) atal plant o fewn ei ardal rhag dod yn rhai syn wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

([9])           Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion o dan adran 135(2) yw:

(a) amddiffyn oedolion o fewn ei ardal

 (i) y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (pun a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai or anghenion hynny ai peidio), a

 (ii) syn cael, neu syn wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a

(b) atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal y soniwyd amdanynt ym mharagraff (a)(i) rhag dod yn rhai syn wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

 

 

([10])         2004 p. 31.

([11])         2002 p. 32.